Mae Theresa May yn brwydro i achub ei chytundeb Brexit wrth iddi golli rheolaeth o’i harweinyddiaeth.

Fe fydd y Prif Weinidog yn amlinellu amserlen ar gyfer gadael Downing Street ar ddechrau mis Mehefin yn dilyn pleidlais dyngedfennol ar ei chytundeb Brexit yn Nhŷ’r Cyffredin.

Os yw hi’n cael ei threchu mae’n debyg y bydd hi’n gadael Rhif 10 yn gynt.

Pylu mae gobeithion Theresa May o gael cefnogaeth Llafur i’w chytundeb ymadael gyda phlaid Jeremy Corbyn yn rhwystredig gyda’r diffyg cynnydd yn y trafodaethau rhyngbleidiol.

Mae’r BBC yn adrodd bod y trafodaethau ar fin dod i ben heb gytundeb.