Mae’r Ysgrifennydd Tramor yn dweud y dylai gwledydd Prydain fod yn barod i godi faint o arian mae’n gwario ar amddiffyn unwaith mae’n gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Jeremy Hunt byddai cynyddu gwariant ar amddiffyn yn sylweddol “yn dangos ymrwymiad gwledydd Prydain i warchod egwyddorion democrataidd ar adeg o ansicrwydd byd-eang.”

Dywed y dylai mwy o arian fod ar gael i greu datblygiadau newydd, megis seiber a deallusrwydd artiffisial, yn hytrach na “llenwi bylchau” mewn cynlluniau presennol.

Ar yr un pryd, fe rybuddiodd nad yw’n gynaliadwy i ddisgwyl i’r Unol Daleithiau barhau i wario 4% o’i Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) tra mae gwledydd eraill Nato yn gwario ddim ond 1% a 2%.

Mae sylwadau Jeremy Hunt wedi cael eu beirniadu gan ysgrifennydd amddiffyn cysgodol Llafur, Nia Griffith.

“Mae Jeremy Hunt wedi bod yn Weinidog Cabinet ers 2010. Er hynny mae’r Torïaid wedi torri gwariant amddiffyn o £9m,” meddai.

“Os yw’n poeni cymaint â hynny, fe fyddech chi’n meddwl y byddai wedi dweud rhywbeth ychydig yn gynt?”