Fe fydd trafodaethau rhwng Llywodraeth gwledydd Prydain y Torïaid a’r Blaid Lafur yn parhau er yr holl wrthwynebiad.

Yn dilyn cyfarfod Cabinet mae gweinidogion wedi cytuno i barhau gyda’r trafod trawsbleidiol ond mae’n pwysleisio ei fod yn “hanfodol” i gytundeb Brexit gael ei gymeradwyo cyn toriad yr haf.

Gyda dyfodol y Prif Weinidog, Theresa May, yn gysylltiedig â phasio cytundeb Brexit, fe all sicrhau cael deddfwriaeth trwy Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi agor y drws i’w hymadawiad o Rif 10.

Bu gweinidogion yn trafod sefyllfa Brexit am hyd at ddwy awr ac er y diffyg datblygiad yn y trafodaethau gyda Llafur, maen nhw’n dweud y dylai’r broses fynd yn ei blaen.

“Cytunodd y Cabinet i barhau â thrafodaethau gyda Llafur i weld beth oedd yn bosibl,” meddai llefarydd swyddogol y Prif Weinidog.

“Fodd bynnag, cytunwyd y byddai’n hanfodol cyflwyno cytundeb Brexit mewn pryd er mwyn iddo gael cydsyniad brenhinol cyn toriad seneddol yr haf.”

Nid oes dyddiad wedi cael ei roi ar doriad yr haf eto, ond mae hi fel arfer yn dod tua diwedd mis Gorffennaf.