Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhuddo’r Blaid Lafur o fod “dros bob man” ar Brexit.

Dywed dirprwy arweinydd y blaid, Jo Swinson, bod Llafur wedi cael cyfle i atal gwledydd Prydain rhag gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn hytrach, mae Llafur yn cynnal trafodaethau “er mwyn ceisio cael Brexit i ddigwydd,” meddai.

Daw’r ymosodiad yn dilyn diwrnod arall o drafodaethau rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr ddoe (Dydd Llun, Mai 13), heb i’r naill na’r llall drafod manylion y trafodaethau.

Mae hefyd yn dilyn sylw dirprwy arweinydd Llafur, Tom Watson, mai Llafur yw plaid “aros a diwygio”, a datganiad llefarydd Brexit y blaid, Syr Keir Starmer, y dylai unrhyw gytundeb fod yn destun ail refferendwm.

“Mae Llafur yn gwrthod cymryd y cyfle i atal Brexit. Maen nhw yn yr ystafell yn trafod ond yn trafod i geisio sicrhau bod Brexit yn digwydd,” meddai Jo Swinson, y ffefryn i lenwi sgidiau arweinydd y blaid, Syr Vince Cable.