Mae dros 180,000 o droseddwyr sy’n gysylltiedig â throseddau difrifol a chyfundrefnol yng ngwledydd Prydain, ac mae angen biliynau o fuddsoddi i daclo’r broblem.

Daw’r rhybudd gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ac yn ôl eu cyfarwyddwr, Lynne Owens, mae troseddau cyfundrefnol yn digwydd “ar raddfa aruthrol.”

Fe fydd y cyhoedd “yn teimlo’r canlyniadau,” os nad oes £2.7bn yn cael ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf, mae hi’n esbonio.

Mae hi eisiau’r Asiantaeth Trosedd Cenedlaethol dderbyn £650m y flwyddyn yn ychwanegol – cynnydd a fyddai’n gweld ei chyllid yn dyblu.

Yn ôl asesiad blynyddol yr asiantaeth heddiw (Dydd Mawrth, Mai 14), mae troseddau cyfundrefnol yn costio gwledydd Prydain o gwmpas £37bn y flwyddyn.