Mae ITV yn cael ei annog i gael gwared ar y Jeremy Kyle Show ar ôl yr hyn sy’n ymddangos fel hunanladdiad gwestai wythnos wedi iddo ymddangos ar y sioe.

Cafodd y sioe ei dynnu oddi ar yr awyr am gyfnod amhenodol ddoe (Dydd Llun, Mai 13) yn dilyn marwolaeth Steve Dymond, 63.

Roedd Steve Dymond wedi cymryd prawf celwydd er mwyn darbwyllo ei ddyweddi Jane Callaghan nad oedd wedi bod yn anffyddlon.

Fe fethodd y prawf, ac fe wahanodd y ddau fel canlyniad.

Yn ôl Jane Callaghan, roedd Steve Dymond wedi bod yn “dioddef yn ddistaw,” ond fe gymeradwyodd tîm am eu hymdrechion i ofalu amdano.

Dywed ITV fod pawb yn y sioe yn “yn drist ac mewn sioc” a bod eu “meddyliau gyda’r teulu a ffrindiau.”

“Byddai’n well cynghori ITV i’w dynnu lawr. Mae’n sioe deledu anatyniadol iawn iawn, ac rwy’n synnu ei bod wedi mynd mor hir,” meddai’r Aelod Seneddol Ceidwadol, Charles Walker.