Mae ymchwil yn awgrymu bod gwahardd siopau rhag dangos cynnyrch tobacco yn gwneud hi’n llai tueddol i blant ddechrau ysmygu.

Yn ôl yr astudiaeth i’r gwaharddiad gafodd ei gyflwyno rhwng 2012 a 2015 a’i effaith – mae’r risg o blant rhwng 11 i 16 wedi disgyn.

Mae plant nawr yn llai ymwybodol o frandiau sigaréts ac mae ysmygu nawr yn cael ei weld yn llai derbyniol.

Cafodd yr astudiaeth ei chynnal gan Brifysgol Stirling oedd wedi holi 3,791 – gan gynnwys 2,953 nad oedd erioed wedi ysmygu – cyn, yn ystod ac ar ôl i’r gwaharddiad gael ei gyflwyno.

Dywed Cancer Research, oedd wedi noddi’r astudiaeth, bod y tueddiad i ysmygu ymysg y rhai nad oedd erioed wedi ysmygu wedi gostwng o 28% cyn y gwaharddiad, i 23% i ddechrau, ac wedyn i 18% ar ddiwedd cyfnod yr astudiaeth.