Mae cwmni ceir Honda wedi cadarnhau eu bwriad i gau eu ffatri yn Swindon yn 2021, gan arwain at golli miloedd o swyddi.

Dywedodd y cwmni o Japan wrth y gweithwyr yn Swindon nad oedden nhw wedi dod o hyd i unrhyw opsiwn arall yn dilyn ymgynghoriad “ystyrlon a chadarn.”

Mae gweithwyr ledled gwledydd Prydain, gan gynnwys Cymru, yn ddibynnol ar gytundebau gan Honda.

Yn Swindon mae’r cwmni’n cyflogi 3,500 o weithwyr ac mae llawer o’r rheiny yn teithio o ardal Caerdydd.

Roedd nifer o sefydliadau a grwpiau wedi bod yn rhan o’r ymgynghoriad, gan gynnwys y Llywodraeth ac ymgynghorwyr allanol yn dilyn pwysau gan undeb Unite.

Fe fydd y cwmni nawr yn symud ymlaen i drafod pecynnau diswyddo ac yn edrych ar yr effaith ar rolau unigolion tan mae’r ffatri yn cau.