Mae’r Torïaid yn ofni canlyniadau trychinebus yn etholiadau Ewrop, sy’n rhoi pwysau ychwanegol ar arweinyddiaeth y Prif Weinidog, Theresa May.

Yn ôl Jacob Rees-Mogg, arweinydd y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd [ERG] sef cynghrair o ASau Ceidwadol, fe fydd etholiadau Mai 23 yn “anodd” ac mae’n apelio ar Dorïaid i aros gyda’r blaid er budd olynydd Theresa May.

Dywed y cymhorthydd gweinidogol Huw Merriman hefyd bod y blaid yn wynebu “sgarmes” wrth i bôl piniwn awgrymu y gall y Torïaid ddisgyn i bumed yn yr etholiad, sy’n cymryd lle oherwydd bod Brexit wedi cael ei ohirio.

Mae’r Torïaid ar 10% yn etholiadau Ewrop, tra bod Plaid Brexit ar 34%, Llafur ar 16%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 15% a’r Blaid Werdd ar 11%, yn ôl astudiaeth YouGov.

Mewn etholiad cyffredinol, mae’r pôl piniwn yn awgrymu y byddai’r Torïaid ben ben â Llafur ar 24%, gyda’r Blaid Brexit ar 18% a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 16%.

Mae Jacob Rees-Mogg yn beirniadu’r “diffyg arweinyddiaeth” yn San Steffan ac yn galw ar Theresa May i adael ei swydd.