Mae cyn-chwaraewr Caerdydd, Danny Drinkwater, wedi cael ei wahardd rhag gyrru am 20 mis ar ôl cyfaddef i gyhuddiad o yfed a gyrru.

Fe fydd yn rhaid i ganolwr presennol Chelsea wneud 70 awr o wasanaeth cymunedol hefyd.

Plediodd yn euog i’r drosedd yn Llys Ynadon Stockport pan ymddangosodd o flaen y barnwr Mark Hadfield am wrandawiad heddiw (dydd Llun, Mai 13).

Clywodd y llys ei fod wedi gyrru ei gar Range Rover i mewn i wal yn Swydd Gaer ar Ebrill 8 gan achosi difrod gwerth £50,000 i’r cerbyd. Roedd dwy ddynes yn teithio yn y car gydag o ar y pryd.