Mae Centrica, perchnogion Nwy Prydain yn dweud bod y cwmni wedi cael cychwyn “heriol” i’r flwyddyn.

Mae hyn yn cynnwys colled o £70m o ganlyniad i’r uchafswm pris ar gyfer tanwydd, a fydd yn effeithio ar goffrau am weddill y flwyddyn.

Mae Centrica hefyd yn dweud bod Nwy Prydain wedi colli 234,000 o gwsmeriaid yn ystod pedwar mis cyntaf y flwyddyn.

Maen nhw’n rhoi’r bai am hyn ar y tywydd mwynach na’r arfer a welwyd eleni, yn ogystal â’r prisiau is ar gyfer tanwydd naturiol.

Bydd ymdrechion i arbed costau yn cael eu cynnal yn ystod y misoedd nesaf, yn ôl y cwmni ymhellach.