Fe fydd Plaid Brexit, plaid newydd Nigel Farage, yn mynnu lle yn nhrafodaethau Brexit pe bai’n ennill seddau yn etholiadau Ewrop.

Ond mae cyn-arweinydd UKIP yn dweud nad yw’n awyddus iawn i fod yn Brif Weinidog, er ei fod yn feirniadol o gynllun Brexit Theresa May.

“Mae gennym gyfundrefn dwy blaid sydd ond yn gwasanaethu ei hun erbyn hyn,” meddai ar raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Mae yna ddiffyg ymddiriedaeth llwyr rhwng pobol y wlad hon a’n gwleidyddion ac yn blwmp ac yn blaen, maen nhw wedi dangos eu bod nhw’n hollol analluog.

“Yr hyn rwy’ am ei weld o’r etholiad Ewropeaidd hwn, os gallwn ni ennill yr etholiadau hyn, byddaf yn sicr yn mynnu bod ASEau Plaid Brexit yn dod yn rhan o dîm trafod y Llywodraeth ac efallai y gallwn ni eu llenwi nhw â synnwyr.”

Mae’n dadlau nad yw Theresa May wedi llwyddo i gael cytundeb ymadael, ond yn hytrach Cytundeb Ewropeaidd newydd.

Ar drothwy’r etholiad, mae’n dweud bod “syrpreis hyd yn oed yn fwy na’r disgwyl ar y gorwel”.