Mae dyn o’r Iseldiroedd wedi ymddangos gerbron llys ar ôl i werth £3 miliwn o gocên gael ei ddarganfod ar gefn lori yn Swydd Lincoln.

Cafodd y lori ei stopio yng ngogledd y sir ddydd Iau, yn ôl yr awdurdodau, oedd wedi dod o hyd i 35kg o’r cyffur yn y drysau cefn.

Cafodd Hendrik van der Genugten, 40, ei gyhuddo o fewnforio a chynllwynio i gyflenwi cocên pan aeth gerbron ynadon yn Grimsby fore heddiw (dydd Sadwrn, Mai 11).

Cafodd ei gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Leeds ar Fehefin 7.