Mae dau ddyn sydd wedi’u cyhuddo o droseddau yn Derry ar y noson pan gafodd y newyddiadurwraig Lyra McKee ei lladd yn gorfod aros yn y ddalfa.

Mae cais Paul McIntyre, 51, a Christopher Gillen, 38, am fechnïaeth wedi cael ei wrthod.

Mae Paul McIntyre wedi’i gyhuddo o derfysg, troseddau’n ymwneud â bom petrol a rhoi cerbyd ar dân ar ôl iddo gael ei ddwyn.

Mae Christopher Gillen wedi’i gyhuddo o derfysg, troseddau’n ymwneud â bom petrol a rhoi tryc ar dân ar ôl iddo gael ei ddwyn.