Mae disgwyl oedi i’r gwaith o ailwampio system gyfathrebu’r Gwasanaethau Brys, ac mae’r gost am gynyddu £3.1bn.
Mae amheuaeth y bydd y newid i system gyfathrebu Airwave wedi ei gwblhau erbyn 2022.
Ac mae’r Swyddfa Gartref yn rhagdybio y bydd cost derfynol y prosiect yn £9.3bn – rhyw £3.1bn yn fwy na’r amcan gwreiddiol.
Ac mae’r Swyddfa’r Ystadegau Cenedlaethol yn rhybuddio nad yw’r dechnoleg wedi ei phrofi “mewn sefyllfaoedd go-iawn”.
“Gwerth gwael i drethdalwyr”
Yn ôl adroddiad Swyddfa’r Ystadegau Cenedlaethol mae penderfyniadau’r Swyddfa Gartref wedi arwain at ohirio’r cynllun, cynyddu’r costau a rhoi gwerth-am-arian gwael i drethdalwyr.
Roedd disgwyl i’r Gwasanaethau Brys ddechrau defnyddio’r system newydd cyn belled yn ôl â mis Medi 2017.
Y targed nawr yw Rhagfyr 2022 ond mae hyn yn “annhebygol” meddai’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.
Dywed hefyd fod y rhagolygon ariannol yn “ansicr iawn”.