Mae Debenhams wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cau hyd at hanner cant o ganghennau, gan beryglu cannoedd o swyddi.

Mae’r cwmni bellach wedi cael caniatâd gan gredydwyr i fwrw ymlaen â’r bwriad i gau siopau sy’n tangyflawni.

Fe bleidleisiodd y credydwyr o blaid cynlluniau a fyddai’n gweld prisiau rhent yn gostwng ar gyfer dros 100 o ganghennau.

Mae’r cyfan yn rhan o gynllun i ailstrwythuro’r cwmni yn dilyn trafferthion ariannol.

Mae Debenhams eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cau 22 o ganghennau yn y flwyddyn nesaf, gan gynnwys rhai yn Lloegr a’r Alban – ond dim un yng Nghymru.

Cafodd ei gadarnhau ddoe (dydd Iau, Mai 9) hefyd na fydd y cwmni yn newid dwylo, yn dilyn methiant i ddenu prynwyr.

Mae’r grŵp o gredydwyr, o’r enw Celine, wedi bod yn gyfrifol am y cwmni ers rhai wythnosau.

Maen nhw wedi addo bod yn “berchennog hirdymor” ar Debenhams, ac eisoes wedi buddsoddi £200m yn y cwmni.