Mae bachgen 14 oed yn yr ysbyty ar ôl cael ei drywanu yng ngolau dydd yn Llundain.

Cafodd y bachgen ei ddarganfod gan yr heddlu ar Gloucester Road yn Croydon am 5.25yh ddoe (Dydd Mercher, Mai 8).

Ar ôl cael ei gludo i’r ysbyty, aseswyd nad oedd yr anafiadau yn bygwth ei fywyd.

Ni does unrhyw un wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r trywanu.

Dyma’r achos diweddaraf o drywanu yn ninas Llundain, problem sydd yn lledaenu ar draws gwledydd Prydain