Mae arweinwyr byd wedi cael eu hannog i gymryd “camau uchelgeisiol” i geisio atal rhai rhywogaethau rhag diflannu’n llwyr wrth i adroddiad gael ei gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Mai 6) yn rhybuddio am y colledion ym mywyd gwyllt.

Mae ymgyrchwyr yng ngwledydd Prydain wedi annog y Llywodraeth i roi “hwb sylweddol” i gadwraethwyr er mwyn ceisio achub rhywogaethau sydd dan fygythiad – o löynnod byw, gwenyn, draenogod a chathod gwyllt.

Daw’r galwadau wrth i’r Cenhedloedd Unedig gyhoeddi asesiad o gyflwr byd natur – yr un mwyaf cynhwysfawr o’i fath. Mae disgwyl i’r adroddiad rybuddio bod miliwn o rywogaethau ar fin diflannu a bod difrod i fyd natur yn bygwth dynoliaeth.

Mae’r astudiaeth wedi cymryd tair blynedd i’w gwblhau.

Mae bron i 600 o arbenigwyr cadwraethol wedi arwyddo llythyr agored “Call4Nature” a gafodd ei lansio gan yr elusen bywyd gwyllt WWF ac sy’n cael ei gyhoeddi mewn papurau newydd ar draws y byd ar drothwy cyhoeddi’r adroddiad.

Dywed y llythyr: “Pan ry’n ni’n difrodi natur, ry’n ni’n difrodi’r pethau hanfodol ry’n ni gyd yn dibynnu arnyn nhw.

“Mae amser o hyd i ddiogelu beth sydd ar ôl a dechrau adfer natur. Ond er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i ni newydd y ffordd ry’n ni’n byw mewn modd radical, gan gynnwys sut ry’n ni’n defnyddio ynni yn ein cymdeithasau, tyfu ein bwyd a rheoli ein gwastraff.”

Mae’n galw am “weithredu pendant ac uchelgeisiol gan arweinwyr byd” i wneud y newidiadau yma.

Daw hyn wrth i weinidogion amgylcheddol o grŵp G7 gwrdd yn Ffrainc.