Ed Miliband - dewis rhydd
Mae disgwyl y bydd rhai o enwau mawr y Blaid Lafur yn Nhŷ’r Cyffredin yn cael eu gwthio i’r meinciau cefn wrth i’r arweinydd newid ei gabinet.

Mae dau lefarydd amlwg eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn gadael eu swyddi – John Denham, y llefarydd busnes, a John Healey, y llefarydd iechyd.

Y disgwyl yw y bydd Ed Miliband yn bachu ar y cyfle i godi nifer o aelodau seneddol ifanc i’r fainc flaen.

Dyma’r tro cynta’ iddo gael dewis rhydd – tan eleni, roedd arweinydd Llafur yn yr wrthblaid  yn gorfod dewis pobol oedd wedi eu hethol gan yr ASau.

Fe fydd John Denham yn parhau gyda gwaith di-dâl yn gynhorthwy-ydd seneddol i Ed Miliband ond mae John Healey’n dweud ei fod eisiau “treulio mwy o amser gyda’i deulu”.