Mae bron i hanner plant gwledydd Prydain sydd yn eu harddegau yn meddwl bod defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gwneud iddyn nhw deimlo’n “llai unig,” er y pryder gan rieni, mae ymchwil yn dangos.

Yn ôl adroddiad Unigrwydd a Thechnoleg yn yr Arddegau gan TalkTalk mae 48% o blant yn eu harddegau yn dweud bod platfformau’r cyfryngau cymdeithasol yn eu helpu gydag unigrwydd.

Dywed 64% nad yw technoleg erioed wedi rhoi profiad gwael iddynt.

Mae hyn yn mynd yn groes gred rhieni, gyda 26% yn unig o’r rhai gafodd eu holi yn cytuno bod technoleg yn lleihau unigrwydd.

70% yn poeni

Mae’r adroddiad wedi ei seilio ar ymatebion 2,005 o blant rhwng 13 a 16 oed yng ngwledydd Prydain, a 2,005 o rieni y plant hynny.

Yn ôl 70% o’r rhieni, maen nhw’n poeni am faint o ddefnydd y mae eu plant yn ei wneud o dechnoleg.

Ond mae ymchwil TalkTalk yn dangos nad yw’r pryder hwn yn cael ei rannu gan blant yn eu harddegau. Dywed 51% bod y cyfryngau cymdeithasol yn helpu iddyn nhw wneud ffrindiau newydd rhag teimlo’n unig.

Dim ond 21% sy’n cyfaddef bod y cyfryngau cymdeithasol yn eu gwneud i deimlo’n unig.