Mae protestwyr wedi amharu ar gyfarfod cyffredinol Barclays yn Westminster, oherwydd eu hanfodlonrwydd tuag at gefnogaeth y cwmni i brosiectau sy’n ymwneud â thanwyddau ffosil.

Roedd y protestwyr o People & Planet, sy’n disgrifio ei hun fel rhwydwaith o fyfyrwyr sy’n ymgyrchu tros dlodi byd eang, hawliau dynol a’r amgylchedd, wedi torri ar draws araith y prif weithredwr, Jes Staley.

Fe wnaethon nhw alw ar Barclays “i ddweud y gwir”, ymysg bloeddiadau eraill, cyn cael eu cludo i ffwrdd gan yr heddlu a swyddogion diogelwch.

Mae’r protestwyr yn honni bod Barclays wedi benthyg arian i fwy o gwmnïau a phrosiectau sy’n defnyddio tanwyddau ffosil, “nag unrhyw fanc Ewropeaidd arall”.

Galw am weithredu

Daw’r brotest ddiwrnod ar ôl i lythyr gan fuddsoddwyr Barclays alw ar y cwmni i roi’r gorau i ariannu cwmnïau sy’n gysylltiedig â chloddio glo ac olew.

Cafodd y llythyr ei arwyddo gan gwmnïau fel Hermes EOS, Edentree, Boston Common a Sarasin & Partners yn sgil ymgyrch gan yr elusen, ShareAction.

Yn ei araith i fuddsoddwyr, dywedodd Jes Staley fod y cwmni yn gwneud eu “gorau glas” i sicrhau bod economi’r byd yn symud tuag at un sy’n defnyddio llai o garbon.

Dywedodd hefyd fod tasglu wedi ei sefydlu ganddyn nhw er mwyn ystyried a gweithredu ar faterion amgylcheddol a chymdeithasol.