Mae gwyddoniaeth fforensig yng Nghymru a Lloegr “mewn argyfwng” ac felly’n cynyddu’r risg o droseddau yn mynd heb eu datrys, yn ôl adroddiad.

Yn ôl Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Arglwyddi mae’r gwasanaethau yn hollbwysig i’r system gyfiawnder.

Dywed aelodau o’r pwyllgor bod nifer o ffactorau sy’n cyfrannu at rain sy’n cynnwys absenoldeb arweinyddiaeth o’r lefel uchaf a diffyg arian.

“Annigonol”

Mae’r adroddiad yn nodi bod “ansawdd a dosbarthiad” gwyddoniaeth fforensig Cymru a Lloegr yn “annigonol.”

Mae’n dadlau hefyd y byddai ymddiriedaeth y cyhoedd yn cael ei cholli os nad yw troseddau yn cael eu datrys.

“Ni all y sefyllfa bresennol barhau,” rhybuddiodd cadeirydd y pwyllgor, yr Arglwydd Patel.

“Mae ein darpariaeth gwyddoniaeth fforensig bellach wedi cyrraedd y gwaelod ac mae angen ei ailwampio’n llwyr.

“Os caiff ein hargymhellion eu rhoi ar waith a bod y Llywodraeth yn buddsoddi’n ddigonol mewn gwyddoniaeth fforensig, gall ein marchnad gwyddoniaeth fforensig ddychwelyd i fod un sy’n arwain yn y byd.”