Byddai Jeremy Corbyn yn euog o “lwfrda eithriadol” pe na bai’n pwyso am ail refferendwm Brexit, yn ôl Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan.

Rhaid i drafodaethau Llafur a’r Ceidwadwyr gynnwys Pleidlais y Bobol, meddai yng nghynhadledd y blaid wrth alw ar arweinydd y Blaid Lafur i “ddod oddi ar y ffens”.

Mae Theresa May, prif weinidog Prydain, yn dal i geisio cefnogaeth ar gyfer ei Chytundeb Ymadael ond mae’r SNP yn mynnu na fyddan nhw’n ei gefnogi.

Mae Jeremy Corbyn wedi “methu â dangos unrhyw fath o ddewrder nac arweiniad” ar ail refferendwm, meddai.

“All Jeremy Corbyn ddim rheoli ei blaid ei hun, heb sôn am herio’r Torïaid,” meddai.

“Mae Jeremy Corbyn, yn llwfr, wedi methu â brwydro dros y bobol sydd am gael y gair olaf.”