Mae’r offeiriad yn angladd y newyddiadurwraig Lyra McKee yn dweud bod y sefyllfa wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon wedi’i symboleiddio gan alarwyr yn gorfodi gwleidyddion i godi ar eu traed yn ystod y gwasanaeth.

Ymhlith y galarwyr roedd Mary Lou McDonald, arweinydd Sinn Fein ac Arlene Foster, arweinydd y DUP, ynghyd â’r Taoiseach Leo Varadkar a Theresa May, prif weinidog Prydain.

Cafodd hi ei saethu’n farw gan weriniaethwyr ar Ebrill 18.

Cododd y galarwyr ar eu traed pan ofynnodd yr offeiriad Martin Magill pam mai llofruddiaeth dynes ifanc oedd wedi eu gorfodi nhw i ddod ynghyd – ond roedd nifer o’r gwleidyddion ar eu heistedd ac ymhlith y rhai olaf i godi.

“Fe wnaeth y bobol, i raddau, roi pwysau ar yr eglwys gadeiriol i sefyll,” meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Yn amlwg, fe wnaeth y gwleidyddion sylweddol, “O, mae pawb y tu ôl i ni’n sefyll, mae angen i ni symud” ac fe wnaethon nhw symud, yn llythrennol, oherwydd fod pobol eraill wedi symud.

“I ryw raddau, mae bron â bod yn drosiad – dw i’n cael y teimlad fod pobol eisiau i’n gwleidyddion symud, ac maen nhw am iddyn nhw symud nawr.”

Trafodaethau

Mae’r gyfres nesaf o drafodaethau wedi cael ei chadarnhau, yn y gobaith o ddod i gytundeb tros lywodraethu datganoledig yng Ngogledd Iwerddon.

Bydd y trafodaethau’n dechrau eto ar Fai 7, gyda phob un o’r prif bleidiau’n cael gwahoddiad i siarad.

Fe wnaeth Sinn Fein wrthod cynnig diweddaraf Arlene Foster ynghylch y ffordd ymlaen, sef fod materion hanfodol megis iechyd yn cael y sylw, tra bod materion ymylol, gan gynnwys priodasau o’r un rhyw, yn cael aros tan bod cytundeb go iawn yn ei le.

Ond mae Sinn Fein yn dadlau y byddai trafod priodasau o’r un rhyw ar frys yn “deyrnged addas” i Lyra McKee.