Fe fydd etholiadau Ewrop fis nesaf yn gyfle i roi gwrthwynebiad i Brexit, meddai is-lywydd plaid Sinn Fein.

Mae pedwar ymgeisydd ar gyfer tair sedd Gogledd Iwerddon yn etholiadau Senedd Ewrop wedi cyflwyno eu henwebiadau yn Belffast heddiw (dydd Iau, Ebrill 24).

“Fe fydd yr etholiad yn ymwneud a phleidlais Aros yn erbyn Gadael,” meddai is lywydd Sinn Fein, Michelle O’Neill.

“Bydd hwn yn etholiad unwaith eto i bobol gofrestru nad ydynt am gael eu llusgo allan o’r Undeb Ewropeaidd, nad oes da i ddod o Brexit , ac nid ydynt am i Brexit gael ei osod arnom ni.”

Daw etholiadau fis nesaf wrth i Lywodraeth gwledydd Prydain barhau i fod mewn sefyllfa lle nad oes cytundeb gadael wedi cael ei chytuno arni.

Yn hanesyddol, mae tair sedd Gogledd Iwerddon ym Mrwsel wedi’u rhannu rhwng y DUP, Sinn Fein ac Unoliaethwyr Ulster.

Bydd Martina Anderson yn sefyll eto yn enw Sinn Feinn, a Diane Dodds eto i’r DUP, tra bod cyn-Unoliaethwr Ulster, Jim Nicholson, yn camu o’r neilltu ar ôl degawdau yn Senedd Ewrop.