Mae’r corff sy’n cadw llygad ar gystadleuaeth rhwng cwmnïau wedi rhwystro’r cytundeb gwerth £12m i uno dwy archfarchnad Sainsbury’s ac Asda oherwydd y byddai’n arwain at brisiau uwch i gwsmeriaid ac yn niweidiio siopau eraill.

Yn ei adroddiad terfynol ar y cytundeb, dywed Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) y byddai prisiau yn codi o fewn siopau, ar-lein ac mewn gorsafoedd petrol ar draws gwledydd Prydain.

Byddai siopwyr a gyrwyr yn “waeth eu byd” pe byddai Sainsbury’s a Asda – sydd o dan berchnogaeth Walmart – yn ymuno, ac fe fyddai prisiau’n codi a llai o bwyslais ar safon.

“Ein dyletswydd ni yw amddiffyn y miliynau o bobol sy’n siopa yn Sainsbury’s ag Asda yn wythnosol,” meddai cadeirydd Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, Stuart McIntosh.

“Does dim ffordd effeithiol o fynd i’r afael a’n pryderon, heblaw i rwystro’r uno.”

Cyn y penderfyniad heddiw (Dydd Iau, Ebrill 25) roedd Sainsbury’s ag Asda wedi cynnig gwerthu hyd at 150 o siopau fel rhan o ymdrechion i fynd i afael ar y pryderon, gan honni y byddai siopwyr yn colli allan ar brisiau is.

Er hynny, dywed yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd bod 537 o ardaloedd lle gallai fod gostyngiad sylweddol mewn cystadleuaeth mewn archfarchnadoedd.