Mae dyn 20 oed wedi cael ei arestio o dan amheuaeth o droseddau brawychiaeth wedi’i chysylltu â Syria.

Cafodd ei ddal yn ne orllewin Llundain heddiw (dydd Mercher, Ebrill 4) yn ôl Heddlu’r Met.

Mae’r dyn yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu yn ne Llundain ar hyn o bryd ac mae’r tŷ lle y cafodd ei arestio yn cael ei archwilio.

Arestiwyd y dyn o dan Adran 41 Deddf Brawychiaeth 2000 ac yn rhan o a chynllun parhaus heddlu.