Mae Nigel Farage a’r blaid newydd – Brexit Party – yn mynd i fod yn targedu etholaethau mwya’ poblogaidd Llafur yn etholiadau lleol Lloegr ac Ewrop ar Fai 23.
Mae cyn-arweinydd UKIP yn dweud y bydd yn rhoi blaenoriaeth i ymgyrchoedd yn ne Cymru, y Midlands, a gogledd Lloegr, a bod ”ganddo’i lygaid ar bleidleiswyr Llafur”.
Mae wedi bod i Westminster i gyhoeddi pwy fydd ymgeiswyr newydd y blaid, sy’n gynnwys Claire Fox, a chyn-aelod y Revolutionary Communist Party.
Yn ôl Nigel Farage, mae’r Brexit Party yn “gwneud yn dda iawn” wrth dargedu cefnogwyr y Ceidwadwyr hefyd.
“Mae pum miliwn o bobol wedi pleidleisio dros Jeremy Corbyn, a bleidleisiodd dros Brexit, a dyna fydd ein tasg ni,” meddai.
“Rydyn ni’n mynd i fynd ar ôl pleidlais y Blaid Lafur ar raddfa fawr iawn.”