Mae’r ‘New IRA’ wedi cyfaddef mai nhw laddodd y newyddiadurwraig Lyra McKee yn ninas Derry, Gogledd Iwerddon, yr wythnos ddiwethaf.

Bu farw Lyra McKee, 29, ar ôl cael ei saethu ar stâd Creggan yn y ddinas ddydd Iau (Ebrill 18).

Mewn datganiad, yn defnyddio geiriau côd, mae’r mudiad yn cynnig “ymddiheuriadau llwyr a diffuant,” i deulu a ffrindiau’r gohebydd.

Mae’r New IRA yn gyfuniad o grwpiau arfog sy’n gwrthwynebu’r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon ac yn ddiweddar fe anfonodd fomiau parsel i gyfeiriadau yn Llundain a Glasgow.