Rhaid i Lafur gefnogi ail refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd er mwyn trechu Nigel Farage, meddai Tom Watson, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur.

Mae’n galw ar ei blaid i beidio ag “eistedd ar y ffens” a sicrhau bod ail refferendwm yn rhan hanfodol o unrhyw gyfaddawd gyda Theresa May, prif weinidog Prydain.

Pleidlais yn cadarnhau’r canlyniad yw’r “peth lleiaf” y gallai trigolion gwledydd Prydain ei ddisgwyl, meddai.

“Fydd Llafur ddim yn trechu Farage drwy ofni siarad a swnio fel pe baen ni’n hanner cytuno â fe,” meddai mewn erthygl yn yr Observer.

“Wnawn ni ddim ei guro fe oni bai y gallwn ni ysbrydoli’r miliynau sy’n bloeddio am fynd i gyfeiriad gwahanol.

“Wnawn ni ddim ennill os eisteddwn ni ar y ffens tros un o’r materion mwyaf hanfodol y mae ein gwlad wedi’i wynebu ers cenhedlaeth.”

‘Sarhad llwyr’

Yn y cyfamser, mae Nigel Farage yn cyhuddo Tom Watson o dorri addewid i bobol Prydain, gan ddweud y byddai ail refferendwm yn “sarhad llwyr” i’r rhai oedd wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Dw i nawr yn bwriadu’n llwyr i dargedu celwyddau a diffyg gonestrwydd Llafur dros yr wythnosau i ddod.”

Ond mae Jeremy Corbyn yn mynnu nad yw Llafur yn ofni Nigel Farage a’i Blaid Brexit, gan wfftio’r hyn mae’n ei ddweud fel “poblyddiaeth”.