Mae’r heddlu yn ymchwilio ar ôl i ddyn, 28, gael ei saethu’n farw ar stryd yn ninas Birmingham ddoe (dydd Mercher, Ebrill 17).

Yn ôl Heddlu’r West Midlands, cafodd ei saethu yn y stryd, a hynny gefn dydd golau.

Bu’n rhaid cau Church Road yn Edington am ddinas, ac mae plismyn yn dal i wneud ymholiadau yn yr ardal.