Mae’r fodrwy yr oedd Margaret Thatcher yn ei gwisgo ar y diwrnod y daeth yn brif weinidog Prydain, ynghyd â breichled a wisgodd mewn cyfarfod â Nelson Mandela, ymhlith yr eitemau sy’n mynd dan y morthwyl y mis nesaf.

Mae cwmni arwerthwyr Christie’s yn cynnal ocsiwn ar-lein o rai o’i thrugareddau personol, er mwyn nodi 40 mlynedd ers ei hethol yn brif weinidog benywaidd cyntaf y Deyrnas Unedig ar Fai 4, 1979.

Mae Christie’s yn amcangyfrif y bydd darnau’n gwerthu am rhwng £100 a £15,000.

Mae disgwyl i’r fodrwy aur 18-carat gyda charreg amethyst fynd am rhwng 1,200 a £1,800.