Mae un o Aelodau Seneddol y Torïaid yn chwilio yn chwilio am gefnogaeth i’w fwriad i gyflwyno mesur o ddiffyg hyder yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin – a hynny oherwydd fod John Bercow yn “dangos ochr” tros Brexit.

Mae Crispin Blunt yn gefnogwyr mawr o’r mudiad Leave, ac mae’n bwriadu cyflwyno ei gynnig ben bore Mawrth nesaf (Ebrill 23) pan y bydd Aelodau Seneddol yn dychwelyd i’r Senedd ar ôl gwyliau’r Pasg.

Pe byddai’n cael cefnogaeth, fe allai hynny achosi cryn embaras i’r Llefarydd, ac yn ychwanegu at y pwysau sydd eisoes arno i ddweud p’un a ydi o’n bwriadu camu o’r neilltu.

Mae Crispin Blunt yn gwneud ei gynnig yn dilyn nifer o benderfyniadau dadleuol gan y Llefarydd sy’n cael eu gweld fel rhai sy’n ffafrio Aelodau sy’n dymuno gweld Prydain yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae cefnogwyr Brexit, yn enwedig ar ochr y Ceidwadwyr, wedi cael eu gwylltio ymhellach gan awgrym fod John Bercow yn bwriadu aros yn y swydd, er iddo awgrymu beth amser yn ôl y  byddai’n rhoi’r gorau iddi yr haf hwn, ar ôl deng mlynedd yn y gwaith.