Mae ymgyrchwyr sydd wedi ymgynnull ar Bont Westminster yn galw ar lywodraeth gwledydd Prydain i weithredu er mwyn rhwystro niufer y troseddau cyllyll.

Maen nhw’n protestio o dan y teitl Operation Shutdown, ac fe aethon nhw yn gyntaf i Downing Street heddiw (Dydd Mercher, Ebrill 17) yn galw ar y llywodraeth i gynnal cyfarfod Cobra i daclo’r cynnydd mewn troseddau treisgar dros y blynyddoedd diweddar.

Eu cynllun yw treulio dwy awr yn Whitehall cyn cynnal munud o dawelwch ger San Steffan i gofio am y swyddog Keith Palmer – yr heddwas a gafodd ei lofruddio yn 2017.

Mae rhieni galarus yn rhan o’r ymgyrch, gan gynnwys Tracey Hanson, mam bachgen 21 oed gafodd ei lofruddio mewn bar yng ngorllewin Llundain yn 2015.

Mae’r protestio yn digwydd ar yr un pryd â’r brotest dros newid yn yr hinsawdd.

Mae protestio mawr wedi bod yn mynd ymlaen ar y tiwb, ar Sgwâr y Senedd, Waterloo Bridge, Ocford Circus a Marble Arch dros y tridiau diwethaf.