Lerpwl yn nodi 30 mlynedd ers trychineb Hillsborough

Cyfres o deyrngedau dros y deuddydd nesaf

Blodau wrth gofeb i'r 96

Cofeb i’r 96 o gefnogwyr pêl-droed Lerpwl fu farw yn stadiwm Hillsborough yn Sheffield ar Ebrill 15, 1989

Mae cyfres o deyrngedau ar y gweill i nodi 30 mlynedd ers trychineb Hillsborough.

Cafodd 96 o gefnogwyr eu lladd ar ôl cael eu gwasgu i farwolaeth ar derasau’r cae yn Sheffield, wrth i dîm pêl-droed Lerpwl herio Nottingham Forest yn rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr ar Ebrill 15, 1989.

Yn groes i’r arfer, fydd dim gwasanaeth yng nghae Anfield eleni, ond fe fydd yna wasanaeth yn eglwys gadeiriol y ddinas yfory (dydd Llun, Ebrill 15, 2.45yp).

A bydd y clwb yn cynnal munud o dawelwch cyn eu gêm yn erbyn Chelsea heddiw (4.30).

Bydd cefnogwyr yn eisteddleoedd y Kop a Syr Kenny Dalglish yn dadorchuddio baneri’n dwyn y rhifau 96 a 30 arnyn nhw, a bydd y ddau dîm yn gwisgo bandiau du ar eu breichiau.

Bydd teyrngedau i’r cefnogwyr yn cael eu harddangos ar hysbysfyrddau electronig o amgylch y cae.

Bydd munud o dawelwch unwaith eto am 3.06yp yfory (dydd Llun, Ebrill 15), yr union amser y digwyddodd y trychineb.

Bydd baneri’r stadiwm yn cael eu cyhwfan ar eu hanner.

Bydd y stadiwm ar agor yfory i unrhyw un sy’n dymuno eistedd i gofio’r rhai fu farw, ond fydd dim digwyddiad swyddogol.

← Stori flaenorol

Cyhoeddi trefn gemau Morgannwg ar gyfer Tlws Bob Willis

Cystadleuaeth gemau pedwar diwrnod yn ôl ardaloedd yn lle’r Bencampwriaeth ddwy adran arferol

Stori nesaf →

Disgwyl i Shaun Edwards aros gyda Chymru

Fe allai fod yn un o ddau hyfforddwr amddiffyn gyda Byron Hayward

Hefyd →

Rheolwr tîm pêl-droed Cymru am barhau yn ei swydd

Mae Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau na fydd Rob Page yn gadael ar ôl methu â chyrraedd Ewro 2024