Mae Iain Duncan Smith yn dweud y dylai Theresa May gamu o’r neilltu cyn etholiadau Ewrop ar Fai 23.

Daw sylwadau cyn-arweinydd y Ceidwadwyr am Brif Weinidog Prydain wrth iddo feirniadu Brexit am niweidio enw da’r blaid.

“Dw i’n gwybod fod y Prif Weinidig eisoes wedi dweud y bydd hi’n mynd,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Dywedodd hi y byddai hi’n mynd pan fyddai’r cytundeb wedi cael ei dderbyn, sy’n edrych fel mis Mai neu Fehefin.

“Dw i’n credu bod y dyddiadau hynny’n sefyll o hyd.

“Dw i’n credu fod rhaid i bopeth mae’r prif weinidog yn ei wneud anelu tuag at ymadael cyn yr Ewros, a fyddai’n ei galluogi hi i gamu o’r neilltu ar ôl gwneud yr hyn ddywedodd hi y byddai hi’n ei wneud, cael y DU allan o’r Undeb Ewropeaidd y naill ffordd neu’r llall, ac yna fe allwn ni gael etholiad arweinyddol arall a dewis arweinydd newydd, sef y ffordd y mae’n rhaid i bethau fod.”

Daw ei sylwadau wrth i Lywodraeth Prydain a’r Blaid Lafur barhau i drafod Brexit.

Newid rheolau?

Mae rhai o fewn y Blaid Geidwadol eisoes yn galw am newid y rheolau ynghylch ethol arweinydd newydd.

O dan y drefn bresennol, dim ond unwaith o fewn 12 mis y gall rhywun herio’r arweinydd.

Fe ddigwyddodd yr her ddiwethaf ym mis Rhagfyr.

Ond mae’r Arglwydd Spicer a’r Arglwydd Hamilton yn dweud bod modd hepgor y rheolau, ac mai mater i aelodau seneddol Ceidwadol ar Bwyllgor 1922 ei drafod yw’r drefn.