Mae Jeremy Corbyn wedi mynegi pryderon yn breifat am anwybyddu gwrth-Semitiaeth o fewn y Blaid Lafur.

Cafodd ei sylwadau eu recordio’n gudd yn ystod cyfarfod â’r Fonesig Margaret Hodge, yn ôl y Sunday Times.

Yn ystod y cyfarfod, roedd e’n trafod ei fwriad i benodi’r Arglwydd Falconer i gynnal ymchwiliad i brosesau cwyno’r blaid.

“Ei holl fwriad yw y bydd yn edrych ar gyflymdra ymdrin ag achosion, eu gweinyddu, a chasglu tystiolaeth cyn iddi gael ei rhoi gerbron panelau priodol ac yn y blaen,” meddai yn ystod y cyfarfod, yn ôl y papur newydd.

“Oherwydd ro’n i’n gofidio bod tystiolaeth naill ai’n cael ei cholli, ei hanwybyddu neu ddim yn cael ei defnyddio, a bod angen gwell system.”

Mae’r papur newydd hefyd yn honni bod Jeremy Corbyn wedi cael ei sarhau a’i fygwth.

Wrth ymateb i’r adroddiadau, dywed y Blaid Lafur eu bod yn cymryd gwrth-Semitiaeth o ddifri, ond maen nhw’n dweud nad ydyn nhw’n gwneud sylw am staff.