Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn achos o saethu ger llysgenhadaeth yr Wcráin yng ngorllewin Llundain.

Dywed y llysgenhadaeth fod ymosodiad wedi bod ar gar y llysgennad, Natalia Galibarenko fore heddiw am 10 o’r gloch (dydd Sadwrn, Ebrill 13).

Ar ôl i’r heddlu atal y car roedd yr ymosodwr yn ei ddefnyddio, fe lwyddodd i daro i mewn i gar y llysgennad am yr ail waith.

Chafodd neb ei anafu, a chafodd un person ei ddwyn i’r ddalfa gan yr heddlu ar ôl iddyn nhw saethu at y car.

Mae ymchwiliad ar y gweill.