Mae Jeremy Corbyn wedi galw ar y Llywodraeth i geisio rhwystro Julian Assange rhag cael ei estraddodi, gan ddweud ei fod wedi datgelu tystiolaeth am erchyllterau yn Irac ac Afghanistan.

Ar ôl i sylfaenydd Wikileaks gael ei arestio ddoe (dydd Iau, Ebrill 11) dywedodd yr arweinydd Llafur y dylai’r Llywodraeth geisio rhwystro ymdrechion i’w estraddodi i’r Unol Daleithiau.

Yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd ysgrifennydd cartref cysgodol Llafur Diane Abbott, mai’r unig gyhuddiad yn erbyn Julian Assange oedd y ffaith ei fod wedi datgelu gwybodaeth am “ryfeloedd anghyfreithlon, llofruddiaeth dorfol, llofruddiaeth dinasyddion a llygredd ar raddfa eang..”

Cafodd Julian Assange ei arestio ddoe yn llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain ar ôl ei gyhuddo o dorri amodau ei fechnïaeth. Mae wedi bod yn cael lloches yn y llysgenhadaeth ers saith mlynedd.

Mae’n wynebu cael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau ar gyhuddiadau o gynllwynio i gael mynediad at gyfrifiadur cyfrinachol y llywodraeth. Fe allai wynebu pum mlynedd dan glo os yw’n ei gael yn euog, meddai Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau.