Fe fydd Theresa May yn cwrdd ag arweinwyr Ffrainc a’r Almaen ar gyfer trafodaethau Brexit, meddai swyddogion.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gwrdd â Changhellor yr Almaen Angela Merkel ym Merlin ac Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron ym Mharis ddydd Mawrth.

Fe fyddan nhw’n trafod cais gwledydd Prydain am estyniad pellach i’r broses Brexit.

Mae disgwyl i Theresa May hefyd siarad gydag arweinwyr eraill yr Undeb Ewropeaidd ar y ffon cyn uwch-gynhadledd y Cyngor Ewropeaidd ddydd Mercher i drafod y cais, meddai Downing Street.

Ychwanegodd y llefarydd ar ran Rhif 10 bod cysylltiadau’n parhau gyda Llafur ynglŷn â chytundeb cyfaddawd posib. Ond mae’n annhebyg y bydd unrhyw gytundeb yn cael ei roi gerbron Aelodau Seneddol cyn dydd Mercher.

Fe fydd gweddill arweinwyr y 27 o wledydd sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd yn cwrdd ym Mrwsel ar gyfer uwchgynhadledd frys, ddeuddydd yn unig cyn mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb o dan y cynlluniau cyfredol.