Fe fydd Llywodraeth gwledydd Prydain yn cyflwyno deddfwriaeth newydd er mwyn sicrhau diogelwch ar y we.

Mae’r papur gwyn, sydd wedi cael ei lunio gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’r Swyddfa Gartref, yn gobeithio gwneud gwledydd Prydain y lle mwyaf diogel yn y byd i fod ar-lein.

Byddai’r rheolau llym yn sicrhau bod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn cymryd cyfrifoldeb dros eu defnyddwyr a diogelwch eu platfformau, yn ogystal a’r deunydd sydd yn ymddangos ar eu gwasanaethau.

Mae’n awgrymu  cosbi cwmnïau cyfryngau cymdeithasol gyda dirwyon mawr neu eu rhwystro rhag cael mynediad atynt.

Byddai’r rheoleiddiwr gyda’r pŵer i roi “dirwyon sylweddol, rhwystro mynediad at safleoedd ac o bosib gwneud aelodau unigol o uwch reolwyr yn atebol”.

Er hynny, mae’r cynlluniau wedi arwain at rybuddion na ddylai hyn arwain at sensoriaeth gan y Llywodraeth.

Fe fydd ymgynghoriad 12 wythnos nawr yn cael ei gynnal cyn i weinidogion gyhoeddi deddfwriaeth ddrafft.