Mae amser yn mynd yn brin i Theresa May ddod i gyfaddawd gyda Llafur cyn yr uwch-gynhadledd o arweinwyr Ewropeaidd yr wythnos hon.

Mae’r Prif Weinidog wedi cynddeiriogi’r Torïaid drwy gynnal trafodaethau gyda Llafur, gyda Brexitwyr yn cynnwys Boris Johnson, yn bryderus y bydd yn derbyn undeb tollau fel rhan o’r cytundeb gyda Jeremy Corbyn.

Mae Theresa May wedi dweud wrth arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ei bod hi eisiau gohirio Brexit hyd at Fehefin 30 fan bellaf, gyda’r posibilrwydd o adael yn gynt os yw hi’n gallu cael y Senedd i gymeradwy ei chynllun.

Ond mae disgwyl i Frwsel fynnu strategaeth glir gan y Prif Weinidog yn ystod cyfarfod o arweinwyr Ewrop ddydd Mercher ac fe allen nhw fynnu gohiriad pellach a fyddai’n golygu bod gwledydd Prydain yn gorfod cymryd rhan yn yr etholiadau Ewropeaidd.

Mewn neges fideo a gafodd ei recordio yn Chequers, dywedodd Theresa May bod yn rhaid i’r ddwy ochr gyfaddawdu yn y trafodaethau rhyngbleidiol gyda Llafur.

Daeth y trafodaethau i ben ar ôl i Lafur gyhuddo’r Prif Weinidog o wrthod amlinellu newidiadau i’w chynlluniau Brexit ac nid oes unrhyw gyfarfodydd wyneb-yn-wyneb wedi cael eu cadarnhau hyd yn hyn.