Gallai’r Blaid Lafur ddioddef mewn etholiadau yn yr Alban pe bai cytundeb gyda’r Ceidwadwyr yn cynyddu’r risg o Brexit caled, yn ôl Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan.

Fe fu trafodaethau ar y gweill rhwng y prif weinidog Theresa May a Jeremy Corbyn mewn ymgais i gyfaddawdu er mwyn sicrhau cytundeb sy’n bodloni’r ddwy ochr.

Mae Jeremy Corbyn am weld Prydain yn aros yn rhan o’r undeb tollau, ac mae ei blaid yn rhoi pwysau arno i fynnu refferendwm sêl bendith ar unrhyw gytundeb.

Ond dylai Llafur “fod yn ofalus” iawn, yn ôl Ian Blackford, gan na fyddai unrhyw lywodraeth yn y dyfodol wedi’i hymrwymo i benderfyniadau’r llywodraeth bresennol – neges a gafodd ei hategu gan Andrea Leadsom yn gynharach.

“Byddwn i’n dweud wrth gydweithwyr yn y Blaid Lafur am fod yn ofalus iawn oherwydd, os ydych chi’n galluogi’r cytundeb hwn i fynd rhagddo, ac rydym yn gwybod y bydd Theresa May yn gwneud hynny, fe allech chi gael rhywun fel Boris Johnson yn brif weinidog ac yn blwmp ac yn blaen, fe all e ddod ag unrhyw ddeddfwriaeth gyda fe y mae’n dymuno,” meddai wrth Sunday Politics Scotland y BBC.

“Does dim sicrwydd drwy gydol y broses hon a byddai’r risg o gael Brexit caled, ac o gael yr Alban heb y farchnad sengl a’r undeb tollau, yn real iawn, a byddwn yn dweud wrth Lafur am beidio â gwneud hyn, ac i fod yn ofalus iawn beth rydych chi’n ei wneud neu fe fyddwch chi, yn syml iawn, yn talu’r pris yn yr orsaf bleidleisio.”

Ychwanega fod yr hawl i symud yn rhydd yn hanfodol i fywyd yn yr Alban.