Mae’r Blaid Lafur wedi amddiffyn y modd y mae’n ymdrin â honiadau o wrth-Semitiaeth yn dilyn adroddiadau bod cannoedd o achosion sydd heb eu datrys.

Mae’r Sunday Times yn adrodd eu bod nhw wedi gweld e-byst sy’n profi fod oedi, diffyg gweithredu ac ymyrraeth gan swyddfa Jeremy Corbyn mewn nifer fawr o achosion.

Dydy rhai aelodau sydd wedi bod yn destun ymchwiliad am bostio negeseuon fel ‘Heil Hitler’ ac ‘Iddewon yw’r broblem’ ddim wedi cael eu cosbi, meddai’r negeseuon.

Mae swyddfa Jeremy Corbyn hefyd wedi gohirio, atal neu ymyrryd mewn 101 o gwynion.

Ond mae Llafur yn dweud bod brawddegau o’r e-byst wedi cael eu cyhoeddi ar hap a heb gyd-destun, ac maen nhw’n mynnu eu bod yn “ymroddedig” i ddileu gwrth-Semitiaeth o fewn y blaid.

Achosion

Fe ddaeth i’r amlwg fod negeseuon o Fawrth 8 yn dangos y cafodd swyddog undeb llafur ddychwelyd i’r blaid ar ôl cael ei gyhuddo o rannu cynnwys oedd yn dweud mai Israeliaid Iddewig oedd yn gyfrifol am ymosodiad 9/11.

Ac fe ddywedodd ymgeisydd cyngor fod aelodau seneddol Iddewig yn “sleifwyr Seionaidd”, ond chafodd e mo’i wahardd er fod y drosedd yn deilwng o waharddiad.

Mae 454 allan o 863 o gwynion sydd heb eu datrys, gan gynnwys 249 lle nad oedd ymchwiliad wedi cael ei gynnal o gwbl.

O blith 409 o achosion lle’r oedd ymchwiliad wedi’i gynnal, doedd 191 ohonyn nhw ddim wedi wynebu camau pellach.

Daeth 145 o ymchwiliadau i ben gyda rhybudd ffurfiol, a chafodd llai na 30 o bobol eu gwahardd.

Mae’r Blaid Lafur yn honni nad yw’r ffigurau’n gywir, ac nad yw swyddfa Jeremy Corbyn wedi ymyrryd mewn unrhyw achos.