Fe fydd trafodaethau yn parhau rhwng y Llywodraeth a’r Blaid Lafur heddiw (dydd Gwener, Ebrill 5) er mwyn ceisio datrys yr anghydfod ynglŷn â Brexit.

Daw’r trafodaethau wrth i Theresa May wynebu wythnos heriol arall er mwyn ceisio parhau gyda’i hagenda i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ac mae ’na adroddiadau bod swyddogion yr Undeb Ewropeaidd yn ystyried cynnig estyniad hyblyg o 12 mis i’r Prif Weinidog i amserlen Erthygl 50.

Yn ôl y BBC, mae llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, yn paratoi i gyflwyno’r cynnig gerbron arweinwyr Ewrop mewn uwch-gynhadledd ddydd Mercher mewn ymgais i sicrhau nad yw gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb heb gytundeb ar Ebrill 12.

Mae disgwyl i Theresa May ysgrifennu at Donald Tusk heddiw i ofyn am ohirio Brexit ymhellach, yn ôl ffynhonnell yn Downing Street.

Wrth i drafodaethau’r Llywodraeth gyda Llafur barhau am ddiwrnod arall, mae cynnal ail refferendwm Brexit yn dal i hawlio’r sylw.

Mae gweinidogion wedi ystyried y posibilrwydd o roi pleidlais i Aelodau Seneddol dros gynnal refferendwm ar gytundeb fel rhan o’r trafodaethau gyda Llafur, yn ôl y Daily Telegraph.

Fe alla’i Llywodraeth amlinellu’r cynlluniau mewn llythyr at arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, ddydd Gwener.