Cyfreithwyr yn gweld cynnydd yn y nifer sy’n nodi gwybodaeth ar ffôn fel ymddygiad afresymol mewn achosion ysgariad

Mae dros dreuan, 35%, o bobol gwledydd Prydain yn cyfaddef eu bod wedi edrych ar ffôn eu partner oherwydd pryderon eu bod yn gweld rhywun arall.

Yn ôl 40% o’r rheiny cafodd holi, maen nhw’n gwneud hynny o leiaf unwaith yr wythnos.

Mae 37% o rheiny yn ferched i gymharu â 33% o ddynion ac roedd merched yn fwy tebygol o ddweud wrth eu partner ynglŷn â beth oedden nhw wedi gweld.

Cafodd yr arolwg ei gynnal gan y cyfreithwyr Hodge Jones & Allen ar ôl iddyn nhw weld cynnydd yn y nifer o achosion ysgariad oedd yn dweud bod gwybodaeth o ffôn eu partner yn esiamplau o ymddygiad afresymol.

Mae’r genhedlaeth iau yn llawer mwy tebygol i fusnesu ar ffonau eu partneriaid, gyda 56% o bobol 16 i 24 a 58% o bobol 25 i 34 yn cyfaddef eu bod wedi gwneud.

Yn ôl 51% o’r holl bobol wnaeth gyfaddef, maen nhw wedi darganfod rhywbeth sydd wedi gwneud iddyn nhw bryderu am ymddygiad eu partner – gyda 45% yn datgan eu bod wedi gorffen eu perthynas oherwydd hynny.