Mae mwy na dwy filiwn o bobol yn Llundain yn byw mewn ardaloedd sydd â lefelau anghyfreithlon o lygredd aer, yn ôl ffigurau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan faer y ddinas Sadiq Khan.

Mae’r ffigurau gan yr Atmospheric Emissions Inventory yn Llundain, sy’n dadansoddi safon yr aer yn y brifddinas, yn dangos bod mwy na 400,000 o blant ymhlith y rhai sy’n byw mewn rhannau o’r ddinas sydd â lefelau anghyfreithlon o lygredd aer.

Dywedodd Sadiq Khan bod y ffigurau’n dangos nad oedd unrhyw welliant sylweddol mewn llygredd rhwng 2013 a 2016 pan oedd ei ragflaenydd Boris Johnson yn y swydd.

Yn 2016, roedd 400 o ysgolion yn dal i fod mewn ardaloedd gydag aer llygredig.

Serch hynny, meddai, fe fu cynnydd sylweddol yn y lefelau llygredd sy’n cael eu mesur.

Roedd llygredd yn yr aer wedi gwella gyda gostyngiad o 57% yn nifer yr oriau gafodd eu cofnodi pan oedd y ddinas wedi torri’r lefel gyfreithiol am nitrogen deuocsid hyd yn hyn eleni o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Daw’r ffigurau cyn i barth allyriadau isel iawn (ULEZ) gael ei gyflwyno pan fydd cerbydau sy’n achosi llygredd yn gorfod gwneud tal o £12.50 y dydd er mwyn gyrru yng nghanol y ddinas, a £100 ar gyfer loriau a bysys.