Mae dau o lanciau wedi cael eu cyhuddo o ladrata ar ôl bod yn cyfarfod â dynion trwy Grindr, ap i bobol hoyw, ac ymosod arnyn nhw.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiadau yn ardal Gorllewin Canolbarth Lloegr ar Ionawr 5, a Mawrth 18 a 24.

Cafodd dau lanc 17 oed eu harestio ddydd Iau, ynghyd â llanc 16 oed, ar amheuaeth o ladrata.

Aeth un o’r llanciau gerbron ynadon Birmingham ddoe (dydd Sadwrn, Mawrth 30), wedi’i gyhuddo o ladrata. Cafodd ei gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn mynd gerbron ynadon eto yfory (dydd Llun, Ebrill 1).

Cafodd dau o bobol eraill yn eu harddegau eu harestio nos Wener, sy’n golygu bod pump o bobol i gyd wedi cael eu harestio mewn perthynas â’r achos.

Mae tri arall wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae’r heddlu’n rhybuddio pobol sy’n defnyddio’r ap a gwefannau tebyg i gyfarfod mewn mannau cyhoeddus lle mae llawer o bobol yn unig.