Mae Channel 4 wedi ymddiheuro yn dilyn sylw gan Jon Snow am “bobol wyn” yn ystod protestiadau Brexit yn Llundain.

Daeth ei sylwadau ar ddiwedd rhaglen newyddion y sianel neithiwr (nos Wener, Mawrth 29), ar ôl i’r bwletin ganolbwyntio ar rali yn San Steffan.

“Fe fu’n ddiwrnod rhyfeddol,” meddai’r darlledwr.

“Diwrnod sydd wedi gweld… Dw i erioed wedi gweld cynifer o bobol wyn mewn un lle, mae’n stori ryfeddol.

“Mae yna bobol ym mhob man, mae yna dyrfaoedd ym mhob man.”

‘Sylw heb ei sgriptio’

Mewn datganiad, mae Channel 4 yn dweud na chafodd sylw Jon Snow ei sgriptio fel rhan o’r rhaglen.

“Dyma sylw heb ei sgriptio ar ddiwedd wythnos hir o ddatblygiadau Brexit fu’n symud yn gyflym.

“Mae Jon wedi arwain digwyddiadau mawr fel yr un hwn yn ystod ei yrfa hir, ac roedd hwn yn sylw mympwyol yn adlewyrchu ei sylw fod lleiafrifoedd ethnig fel pe baen nhw’n cael eu tan-gynrychioli’n sylweddol mewn protest mor fawr yn Llundain.

“Rydym yn difaru unrhyw sarhad a gafodd ei achosi gan ei sylw.”