Mae dynes 99 oed wedi cael ei lladd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a bws mini yn yr Alban.
Roedd hi’n teithio mewn car Vauxhall Astra ar yr A82 ger Loch Lomond brynhawn ddoe (dydd Gwener, Mawrth 29).
Roedd y bws mini yn teithio i’r cyfeiriad arall.
Bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle.
Cafodd gyrrwr 73 oed y car ei gludo i’r ysbyty, lle mae hi mewn cyflwr sefydlog.
Cafodd chwech o bobol anafiadau, ond doedd dim rhaid iddyn nhw fynd i’r ysbyty.